Automotive Supply Chain Trial WRAP

Sbarduno Cynaliadwyedd yn y Sector Modurol

Mae treialon cadwyn gyflenwi arloesol WRAP yn gweithio gyda busnesau yng Nghymru i gynyddu’r deunydd eilgylch a ddefnyddir mewn nwyddau a sicrhau y gellir ailgylchu’r nwyddau hyn.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae WRAP, ynghyd â nifer o bartneriaid prosiect cadwyni cyflenwi yn anelu at sbarduno hyder y farchnad mewn defnyddio deunyddiau eilgylch ôl-gwsmer sydd eisoes ar y farchnad drwy arddangos y buddion economaidd ac amgylcheddol o wneud hynny.

Sbarduno Cynaliadwyedd yn y Sector Modurol

Mae’r prosiect cadwyn cyflenwi hwn a gynhelir gyda’r partner arweiniol BIC Innovation, cwmni ymgynghori preifat sy’n arbenigo mewn arloesedd a thwf, mewn partneriaeth ag Advantage Automotive, sydd ill dau wedi’u lleoli yng Nghymru, ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â heriau o fewn y sector modurol.

Nod y prosiect yw gweithgynhyrchu system golchi sgrin Advantage Automotive gan ddefnyddio cyfran o gynnwys eilgylch, ac o ganlyniad leihau’r ddibyniaeth ar ddeunydd crai.  Y tu hwnt i berfformiad technegol, mae gan y prosiect hefyd ffocws ar ddatblygu cadwyn gyflenwi a model busnes masnachol cynaliadwy.

Er bod llawer o gynhyrchwyr offer gwreiddiol (OEM) modurol yn dechrau ystyried deunyddiau eilgylch yn eu nwyddau, mae rhwystrau’n bodoli o hyd, yn cynnwys pryderon ynghylch ansawdd nwyddau, cysondeb, profion, ardystio, a gwydnwch cadwyni cyflenwi. Mae’r prosiect hwn yn taclo heriau o’r fath yn uniongyrchol, yn yr achos hwn, y gofyniad am radd naturiol o ddeunydd sy’n addas ar gyfer y broses chwythfowldio. Mae ystyriaethau cost yn aml yn chwarae rhan ganolog yn ein hymdrechion.

Datblygiadau addawol

Mae’r cynnydd wedi rhagori ar bob disgwyliad. Hwylusodd WRAP Cymru gyflwyniadau ag AST Plastics yn Wrecsam, sy’n adnabyddus am gynhyrchu cynwysyddion hylifau peryglus sydd wedi’u cymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig gan ddefnyddio HDPE. Derbyniodd AST grant o’r gronfa economi gylchol, a weinyddwyd gan WRAP ar ran Llywodraeth Cymru, a ganiataodd i AST olchi ac ailddefnyddio cynwysyddion, gydag unrhyw gynwysyddion wedi difrodi’n cael eu hailgylchu. Mae hyn wedi golygu bod AST wedi llwyddo i gyflenwi deunydd gradd chwythfowldio naturiol addas i Advantage Automotive, sydd wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus i gynhyrchu’r systemau golchi sgriniau gan ddisodli 100% o’r HDPE crai. Mae eu cwsmer, OEM blaenllaw, wedi’u hannog yn fawr gan y datblygiad hwn ac maent wrthi’n cymharu canlyniadau profion ac yn cynnal eu profion eu hunain wrth iddynt ystyried newid i gydrannau wedi’u gwneud 100% o ddeunyddiau eilgylch.

Fodd bynnag, nid dyma ddiwedd ein taith. Mae cam nesaf y prosiect yn canolbwyntio ar archwilio cysyniadau dylunio cynnyrch amgen sy’n cynnwys deunyddiau nad ydynt yn naturiol, a elwir yn ‘ddeunydd jazz’. Nod y cam hwn yw sicrhau cyflenwad cyson, hirdymor o ddeunydd, gan agor ffynonellau ychwanegol o ddeunydd eilgylch gwerthfawr.

Cadwch lygad allan am ragor o ddiweddariadau ar ein siwrne tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.