Utilising material with no existing end market

Arloesi Deunyddiau Perfformiad Uchel yng Nghymru

Mae treialon cadwyn gyflenwi arloesol WRAP yn gweithio gyda busnesau yng Nghymru i gynyddu’r deunydd eilgylch a ddefnyddir mewn nwyddau a sicrhau y gellir ailgylchu’r nwyddau hyn.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae WRAP, ynghyd â nifer o bartneriaid prosiect cadwyni cyflenwi yn anelu at sbarduno hyder y farchnad mewn defnyddio deunyddiau eilgylch ôl-gwsmer sydd eisoes ar y farchnad drwy arddangos y buddion economaidd ac amgylcheddol o wneud hynny.

Arloesi Deunyddiau Perfformiad Uchel yng Nghymru

Mae Nextek, ymgynghoriaeth sy’n darparu atebion arloesol yn seiliedig ar wyddoniaeth, sy’n mynd i’r afael â heriau ailgylchu plastigion, yn arwain ar brosiect gyda’i bartneriaid Fiberight, Ecodeck, MBA a European Metals Recycling (EMR) i arddangos bod modd defnyddio deunyddiau plastig gwastraff heb farchnad derfynol bresennol mewn nwyddau perfformiad uchel.

 Drwy ddefnyddio deunyddiau sydd heb farchnad derfynol bresennol, rydym yn arddangos yr allfeydd gwerth uchel ar gyfer yr hyn a ystyrir ar hyn o bryd yn wastraff o werth isel, gan gefnogi targedau ailgylchu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, bu WRAP yn ymweld â chyfleuster Fiberight ger Tre-gŵyr, Abertawe, i weld eu proses HYDRACYCLE unigryw. Mae’r system adennill adnoddau a sefydlu gwerth arloesol hon yn defnyddio dŵr i lanhau a gwahanu deunyddiau gwastraff, gan eu dargyfeirio o losgi neu dirlenwi. Bu’r tîm hefyd yn ymweld â’r cyfleuster EMR yng Nghaerdydd i weld sut caiff cerbydau ar ddiwedd eu hoes eu hailgylchu a pholymerau gwerthfawr eu hechdynnu. Caiff y polymerau wedyn eu hanfon i MBA ar gyfer prosesu pellach.

Fel rhan o’n prosiect, rydym yn treialu defnyddio allbynnau ffilm a ffibr cymysg Fiberight yn y broses o weithgynhyrchu nwyddau decin cyfansawdd. Drwy gynnwys yr allbynnau hyn ynghyd â deunyddiau a gafodd eu hachub o gerbydau ar ddiwedd eu hoes, ein nod yw disodli defnyddio ffibr pren wedi’i fewnforio gan gynnal estheteg a dengarwch marchnad y cynnyrch.

Ar ben hynny, rydym yn archwilio’r potensial o broses olchi ddwys i lanhau deunydd ffilm Fiberight ymhellach. Mae’r rhan hon o’r prosiect yn ceisio deall a fyddai’r cam glanhau ychwanegol hon yn arwain at ddeunydd o werth uwch. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer ei ddefnyddio fel deunydd porthiant, gan leihau ein dibyniaeth ar ddeunydd crai wrth gynhyrchu ffilm fel deunydd lapio tomwellt a silwair a’i ddargyfeirio o dirlenwi neu droi gwastraff yn ynni.

Cadwch lygad allan am ragor o ddiweddariadau ar ein siwrne tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.