Aggregate Bags WRAP Supply Chain Trial

Mae treialon cadwyn gyflenwi arloesol WRAP yn gweithio gyda busnesau yng Nghymru i gynyddu’r deunydd eilgylch a ddefnyddir mewn nwyddau a sicrhau y gellir ailgylchu’r nwyddau hyn.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae WRAP, ynghyd â nifer o bartneriaid prosiect cadwyni cyflenwi yn anelu at sbarduno hyder y farchnad mewn defnyddio deunyddiau eilgylch ôl-gwsmer sydd eisoes ar y farchnad drwy arddangos y buddion economaidd ac amgylcheddol o wneud hynny.

Hyrwyddo Pecynnu Agregau

Cynhelir y treial cadwyn gyflenwi hwn gyda’r partner prosiect arweiniol, Resilience Sustainable Solutions (RSS), ymgynghoriaeth wedi’i lleoli yng Nghymru sy’n helpu sefydliadau ddatblygu a gwreiddio atebion cynaliadwyedd, mewn partneriaeth â Tarmac, Berry BPI Global, Prifysgol Caerdydd a GEA, ac mae’n archwilio dichonoldeb casglu bagiau gwastraff agreg a’u troi yn ddeunyddiau pacio newydd ar gyfer tywod a graean. Bydd y treial yn anelu at sefydlu model ailgylchu dolen gaeedig ar gyfer bagiau agreg gwastraff. 

Datgelu Mentrau Cynaliadwyedd Cyffrous: Diweddariad Mawrth 2024

Torri Tir Newydd mewn Gweithgynhyrchu: Bagiau gyda Mwy o Gynnwys Eilgylch

Mae’r partneriaid prosiect Berry BPI wedi cynhyrchu haenen blastig, gan ddefnyddio deunydd eilgylch, i gael ei droi’n fagiau yng nghyfleuster llenwi a phacio Tarmac. Yn hollbwysig, mae’r deunydd pacio plastig hwn yn un nad yw’n glir, sy’n symud oddi wrth norm y diwydiant i holl nwyddau agreg ddod mewn bagiau clir, yn cynnwys tywod ac agregau addurnol.  

Mae galw uchel am blastig eilgylch clir, glân, a chyflenwad isel, sy’n ei wneud yn fwy drud o’i gymharu â phlastig jazz nad yw’n glir. Mae hyn oherwydd bod angen i blastig clir fynd drwy fwy gamau o wahanu a didoli lliwiau i gynnal ei ansawdd. Mae dewis peledi plastig jazz dros rai clir yn cynnig dewis amgen sy’n fwy costeffeithiol ac yn haws cael gafael arno. Cymwysiadau cyfyngedig sydd wedi bod ar gyfer plastig jazz yn draddodiadol, fodd bynnag, gobeithia ein menter ddatblygu marchnad newydd i’r deunydd.

Mae’r newid hwn yn dadflocio posibiliadau ehangach ar gyfer cynnwys eilgylch. Ar gyfer y treial gweithgynhyrchu, darparodd Berry eu peledi jazz eilgylch, wedi’u creu’n bennaf o wastraff ôl-gwsmer, yn benodol, deunydd lapio paledi gyda rhywfaint o halogiad inc.

Cynhyrchwyd yr haenen blastig yn llwyddiannus gyda 60%, 80%, a 90% cynnwys eilgylch, yn rhagori’n fawr ar y lefel presennol o 50% ym magiau Tarmac, gan nodi cam allweddol tuag at gynaliadwyedd yn eu prosesau cynhyrchu.

Llwyddiant Treialon Pacio a Llenwi

Yn dilyn y cam gweithgynhyrchu llwyddiannus, cyrhaeddodd y deunydd haenen blastig gyfleuster Tarmac yn Swydd Gaer ym mis Hydref 2023, i gael ei lenwi â’r agreg a’i selio. Cynhaliwyd treialon trwyadl, gan werthuso tymereddau selio, ansawdd selio, a chysondeb llenwi ar gyfer tywod a deunydd cras ‘MOT’. 

Er bod heriau gyda diffiniad ‘marc llygad’ wedi’u nodi, parhaodd y selio i fod yn foddhaol ar draws yr holl dreialon deunydd eilgylch, hyd yn oed ar 90% cynnwys eilgylch. Mae monitro perfformiad y bagiau yn y gaeaf ar y gweill, i sicrhau bod perfformiad yn cael ei gynnal drwy brosesau storio a thrin. O ganlyniad i lwyddiant perfformiad y bagiau 90%, bydd y treial nawr yn canolbwyntio’n hyderus dim ond ar fynd i’r afael â heriau a geir gyda’r bagiau 90% cynnwys eilgylch hyn.

Arloesi Cynllun Casglu gyda B&Q

Mae WRAP Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio gyda B&Q ar gynllun casglu yn ei siopau ar gyfer bagiau agreg, gan gynyddu’r cyfle i ailgylchu plastig. Lansiwyd y fenter hon ym mis Ionawr 2024 ar draws siopau dethol yn Ne Cymru ac mae hefyd yn archwilio sut mae cwsmeriaid yn derbyn bagiau nad ydynt yn glir ar gyfer agreg, yn hytrach na’r bagiau clir traddodiadol.

Yn ogystal â hyrwyddo cynaliadwyedd, mae hyn hefyd yn alinio ag ymrwymiadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (Extended Producer Responsibility/EPR). Mae ein ffocws ar newid ymddygiad yn manteisio ar ddirnadaethau o adroddiadau blaenorol WRAP ar gynlluniau casglu plastigion hyblyg, i ddatblygu’r agwedd hon ar y treial.

Cadwch lygad allan am ragor o ddiweddariadau ar ein siwrne tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.