Polisi Preifatrwydd

Mae WRAP yn ymrwymedig i fod yn dryloyw am sut mae’n casglu ac yn defnyddio eich data ac yn bodloni ei rwymedigaethau diogelu data. Bwriad y Polisi Preifatrwydd hwn yw eich helpu i ddeall pa ddata rydym yn ei gasglu a beth rydym yn ei wneud ag ef. Mae hyn yn bwysig, a gobeithiwn y byddwch yn cymryd amser i’w ddarllen yn ofalus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi, gallwch anfon neges at data.protection@wrap.org.uk.

O bryd i’w gilydd, gofynnir i chi roi gwybodaeth bersonol amdanoch eich hunan (enw, cyfeiriad ebost ac ati) er mwyn derbyn neu ddefnyddio gwasanaethau ar ein gwefan. Hefyd, byddwn yn casglu rhai mathau o ddata yn awtomatig, fel yr amlinellir isod. Caiff rhywfaint o’r wybodaeth hon ei storio mewn cwcis, a gallwch ddysgu sut rydym yn defnyddio’r rhain yn ein polisi cwcis.

Sut Rydym yn Prosesu eich Data

Rydym yn prosesu eich data personol yn y ffyrdd canlynol:

Ar gyfer rhai buddiannau dilys:

- i wella eich profiad

  • i’ch galluogi i fewngofnodi ac aros wedi’ch mewngofnodi ar ein safle
  • i ddangos cynnwys mewn modd sy’n addas i’ch dyfais

- i fesur effeithiolrwydd ein gwefan a’n sianelau marchnata

- i ganfod effeithiolrwydd adnoddau

  • e.e. i ddarparu ebost dilynol ar ôl i ddefnyddiwr lawrlwytho adnodd penodol, er mwyn deall y newid busnes a allai fod wedi digwydd.
  • i ganfod ac atal twyll

- i ganfod ac atal sbam; ac

- os ydych yn un o’n partneriaid, i anfon negeseuon ebost atoch gyda chyfathrebiadau marchnata.

Yn seiliedig ar eich caniatâd:

- i ddarparu profiad wedi’i deilwra i chi

  • h.y. darparu cynnwys wedi’i deilwra i chi

- i anfon negeseuon marchnata atoch

  • h.y. marchnata trwy gyfrwng ebost a hysbysebu ar-lein; byddwn yn cael caniatâd ar wahân am hynny

- mesur effeithiolrwydd ein proffiliau cynulleidfa ar ein gwefan a’n sianelau marchnata

- at ddibenion ymchwil.

ac i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol.

Y Data a Gasglwn

Mae’r data a gasglwn yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad ebost, cod post, gwlad a rhif ffôn
  • Enw mudiad a theitl swydd
  • Cyfeiriad IP 
  • Gweithrediadau ar y wefan (h.y. y cynnwys a edrychwyd arno ac a gafodd ei lawrlwytho)
  • Dewisiadau marchnata
  • Proffilio cynulleidfa
  • Gwybodaeth sy’n benodol i ddigwyddiad, e.e. anghenion dietegol. Dim ond ar gyfer y digwyddiad hwnnw y defnyddir yr wybodaeth hon.

Rhannu Eich Data

Yn ddibynnol ar gyfraith diogelu data berthnasol, efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda:

  • Cwmnïau sy’n darparu gwasanaethau i ni 
  • Cynghorwyr neu gyrff cyfreithiol a phroffesiynol
  • Cwmnïau atal twyll
  • Mudiad rydym yn gwerthu neu’n trwyddedu’r rhan berthnasol o’r busnes iddynt er mwyn cadw eich buddiannau dilys. 
  • Unrhyw fudiad arall os rydym wedi cael eich caniatâd neu pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Pa bryd bynnag y byddwn yn prosesu data at y dibenion hyn, byddwn yn sicrhau ein bod bob amser yn cadw eich hawliau Data Personol gyda pharch o’r mwyaf a byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r hawliau hyn. Mae’r hawl gennych i wrthwynebu’r prosesu hwn pe dymunech, ac os felly, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.

Am Ba Hyd y Cadwn Eich Data

- Cyfrifon gwefan

  • Rydym yn dileu cyfrifon sydd wedi bod yn segur am 2 flynedd.

- Cyfrifon rhaglenni ar y we

  • Lle gallwn weld pa bryd y gwnaeth rhywun fewngofnodi ddiwethaf, rydym yn dileu cyfrifon sydd wedi bod yn segur am 4 blynedd. 
  • Lle na allwn weld pa bryd y gwnaeth rhywun fewngofnodi ddiwethaf, byddwn yn cadw’r wybodaeth am hyd oes y rhaglen er mwyn cadw eich buddiannau dilys pe dymunech ddefnyddio’r rhaglen.

- Google Analytics

  • Caiff data ar lefel defnyddiwr a lefel digwyddiadau a gaiff ei storio gan Google Analytics ei ddileu’n awtomatig o weinydd Analytics ar ôl 50 mis.

-WRAP Analytics

  • Caiff data ar lefel defnyddiwr a gaiff ei storio gan adnodd dadansoddeg WRAP ei ddileu neu ei wneud yn gwbl ddienw ar ôl 50 mis.

- Rhestrau marchnata ebost

  • Mae’r opsiwn gennych i ddad-danysgrifio o’n rhestrau marchnata ebost, a byddwn yn cadw at ein gair am hyn yn ddieithriad. Byddwn hefyd yn glanhau ein rhestrau o bryd i’w gilydd i sicrhau eu bod yn gyfredol.

Eich Hawliau fel Testun Data

Ar unrhyw adeg tra bo eich data personol yn ein dwylo neu’n cael ei brosesu gennym, mae’r hawliau canlynol yn eiddo i chi, testun y data:

  • Hawl mynediad – mae’r hawl gennych i ofyn am gopi o’r wybodaeth rydym yn ei gadw amdanoch.
  • Yr hawl i gywiro – mae’r hawl gennych i gywiro data rydym yn ei gadw amdanoch sydd yn anghywir neu’n anghyflawn.
  • Yr hawl i gael eich anghofio – mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i’r data rydym yn ei gadw amdanoch gael ei ddileu o’n cofnodion.
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – lle mae rhai amodau’n gymwys i gael hawl i gyfyngu ar y prosesu.
  • Yr hawl i gludadwyedd – mae’r hawl gennych i gael trosglwyddo’r data rydym yn ei gadw amdanoch i fudiad arall.
  • Yr hawl i wrthwynebu – mae’r hawl gennych i wrthwynebu i rai mathau o brosesu, fel marchnata uniongyrchol.
  • Yr hawl i wrthwynebu i brosesu awtomatig, yn cynnwys proffilio – mae’r hawl gennych hefyd i fod yn destun effeithiau cyfreithiol prosesu neu broffilio awtomatig.

Mynediad at eich Gwybodaeth Bersonol

Yn unol â’r hawliau uchod, mae’r hawl gennych i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol y mae WRAP yn ei gadw amdanoch, i gael cywiro unrhyw anghywirdebau, neu i ofyn iddo gael ei ddileu. Dylech gyfeirio ceisiadau at y person sy’n gyfrifol am Ddiogelu Data (ebost: data.protection@wrap.org.uk).

Defnyddwyr dan 18 oed

Os ydych chi dan 18 oed, gofynnwch am ganiatâd eich rhiant/gwarcheidwad o flaen llaw pa bryd bynnag y byddwch yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i WRAP. Ni chaniateir i ddefnyddwyr heb y caniatâd hwn roi gwybodaeth bersonol i ni.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn neu os hoffech gwyno am sut rydym yn prosesu eich data personol, neu sut ymdriniwyd â’ch cwyn, mae’r hawl gennych i wneud cwyn yn uniongyrchol i’r Awdurdod Goruchwylio a chynrychiolydd diogelu data WRAP.

Manylion chynrychiolydd diogelu data WRAP yw:

Diogelu Data data.protection@wrap.org.uk

WRAP

2nd Floor Blenheim Court

19 George Street

Banbury

OX16 5BH

Darllenwch ein Polisi Cwcis