Gwerthusiad annibynnol o’r treial Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol (Digital Deposit Return Scheme/DDRS) ‘maint tref’ cyntaf yn y byd a gynhaliwyd yn Aberhonddu yn 2023.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r ymchwil meintiol ac ansoddol a gynhaliwyd ac yn nodi meysydd ar gyfer ymchwil pellach.

Crynodeb

A Scan Reward Recycle collection point outside a high street shop

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes (Deposit Return Scheme/DRS), fel yr amlinellir yn ‘Strategaeth Mwy nag Ailgylchu’ Cymru. Mae DRS yn annog defnyddwyr i ailgylchu eitemau drwy godi ernes adeg prynu. Caiff yr ernes hon ei had-dalu pan gaiff yr eitem ei dychwelyd i’w hailgylchu. Mae’r cynllun yn anelu at leihau taflu sbwriel, rhoi hwb i gyfraddau ailgylchu a gwella ansawdd y deunydd a gesglir i’w ailgylchu. Mae cyflwyno DRS hefyd yn anelu at annog mwy o ddatblygu ar systemau ailddefnyddio ac ail-lenwi.

Mae systemau DRS traddodiadol fel arfer yn dibynnu ar fodel dychwelyd i’r gwerthwr a defnyddio peiriannau gwerthu gwrthdro (reverse vending machines/RVM) sefydlog i awtomeiddio’r broses. Mae system DRS digidol (DDRS) yn defnyddio digideiddio cynnyrch i ganiatáu cwmpas cynnyrch ehangach a chydnawsedd ag unrhyw seilwaith a phrosesau casglu sy’n ymgorffori technoleg ddigidol a chysylltedd i hwyluso dychwelyd cynwysyddion.

Trefnwyd treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr Aberhonddu i ddeall yn well beth yw goblygiadau sefydlu a gweithredu cynllun DDRS yng Nghymru, yn cynnwys rhoi opsiynau dychwelyd ar brawf, sut gellid integreiddio’r dull o fewn gwasanaethau ailgylchu ar garreg y drws presennol, ac i brofi profiad deiliaid tai sy’n defnyddio’r dechnoleg.

Recycling bins with QR codes as part of the Buxton DDRS trial

Comisiynwyd WRAP gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad annibynnol o’r treial, yn cynnwys ymchwil meintiol ac ansoddol, i gael cipolwg ar ddewisiadau a ffafrir gan y cyhoedd o ran dychwelyd cynwysyddion diodydd i hawlio gwobrau, wrth gynnig dewis o opsiynau man dychwelyd.

Yn ystod y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr, cafodd 18,794 o wobrau eu hawlio. Dangosodd y canlyniadau mai dychwelyd ar garreg y drws oedd y dull mwyaf poblogaidd a hwylus, a ddewiswyd ar gyfer 58% o’r dychweliadau, a gwelwyd cyfradd cydymffurfio o 97.6%. Dangosodd ymchwil ansoddol dderbyniad cymunedol o’r DDRS, gyda phreswylwyr yn mynegi parodrwydd i fabwysiadu technoleg ar gyfer ailgylchu, yn amodol ar ddibynadwyedd ac argaeledd cymorth.

Mae ymchwil pellach yn anelu at archwilio’r potensial i gynyddu graddfa, optimeiddio labeli, ac asesu dichonoldeb mewn ardaloedd sydd â llai o gydymffurfio.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Treial Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol (DDRS) yn Aberhonddu

    PDF, 4.57 MB

    Lawrlwytho
  • Digital Deposit Return Scheme (DDRS) trial in Brecon

    PDF, 4.34 MB

    Lawrlwytho

Tagiau