Mae gwaith WRAP Cymru yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn hollbwysig ar gyfer hyrwyddo cynaliadwy a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd. Drwy ganolbwyntio ar ailddefnyddio ac atgyweirio, rydym yn cyfrannu’n weithredol at ddatblygu economi gylchol. Mae’r dull hwn yn helpu i leihau gwastraff a lleihau’r effaith amgylcheddol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a defnyddio.
Nod yr economi gylchol yw dylunio i ddiddymu gwastraff a llygredd, cadw nwyddau a deunyddiau’n ddefnyddiol, ac adfywio systemau naturiol. Drwy ddarparu ymchwil a dirnadaethau gwerthfawr, ac annog ailddefnyddio ac atgyweirio, mae WRAP Cymru yn chwarae rôl sylweddol mewn cyflawni’r nodau hyn.
Mae hyrwyddo atal gwastraff a chefnogi mentrau sy’n cynyddu ailddefnyddio ac ailgylchu’n gwarchod adnoddau gwerthfawr ac yn lleihau ôl-troed carbon y nwyddau a ddefnyddiwn. Mae hyn yn helpu’r ymdrech fyd-eang i frwydro’r newid yn yr hinsawdd a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Mae cymorth WRAP Cymru ar gyfer ailddefnyddio ac atgyweirio’n cynnwys:
- Mapio’r sector ailddefnyddio ac atgyweirio yng Nghymru.
- Darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisïau a mentrau i gynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio.
- Canllawiau.
- Astudiaethau achos.
- Digwyddiadau.