Planet earth from space

Amdanon ni

Byd ffyniannus lle nad yw newid hinsawdd yn broblem mwyach

Sefydliad anllywodraethol sy’n gweithredu ar newid hinsawdd yw WRAP, sy’n gweithio’n fyd-eang ar fynd i’r afael ag achosion yr argyfwng hinsawdd a rhoi dyfodol cynaliadwy i’r blaned. Fe’n sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig yn 2000; rydym yn gweithio mewn 40+ o wledydd erbyn hyn.

Ni ddylem wastraffu ein hadnoddau naturiol. Dylid ailddefnyddio ac ailgylchu popeth a ddefnyddiwn. Yn gweithio ym mhedwar ban byd gyda llywodraethau, busnesau, a dinasyddion, cenhadaeth WRAP yw gwneud y byd yn lle mwy cynaliadwy. Fe wnawn eich helpu, eich herio, a sbarduno newid gyda’n gilydd. NAWR yw’r amser i weithredu.

Mae WRAP Cymru’n rhan o WRAP, ac mae’n cyflawni pecyn gwaith penodol i Gymru i gefnogi nodau amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

Taclo’r system yn ei chyfanrwydd

Gall mynd i’r afael â dim ond un agwedd ar broblem arwain at gyflawni dim mwy na symud y broblem i rywle arall. Rydym yn arddel dull holistig, yn ystyried y system gyfan ac yn creu atebion sy’n gweithio gyda’i gilydd.

Er enghraifft, mae Rhaglen Datblygu Marchnadoedd WRAP Cymru wedi’i rhoi ar waith i gynyddu’r cyflenwad o nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch yng Nghymru a’r galw amdanynt. Rydym yn cefnogi defnyddio deunydd eilgylch mewn gweithgynhyrchu trwy’r Gronfa Economi Gylchol a phrosiectau o fewn y gadwyn gyflenwi, ac rydym yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus i gynyddu caffael nwyddau cyhoeddus.

Yn gweithio’n gyfochrog â hyn mae ein Rhaglen Newid Gydweithredol, sy’n cynorthwyo awdurdodau lleol Cymru i gyrraedd eu targedau ailgylchu statudol. Ategir hyn gan ein hymgyrch Cymru yn Ailgylchu, sy’n annog dinasyddion i fabwysiadu ymddygiadau ailgylchu cadarnhaol. 
 

Taclo’r mwyaf gwastraffus

Mae ein tystiolaeth yn ysbrydoli gweithredu yn y meysydd sy’n creu’r mwyaf o wastraff.
 
Rydym yn tynnu pobl ynghyd, rydym yn gweithredu ar y ffeithiau, ac rydym yn sbarduno newid.

Gallwch ddysgu mwy am WRAP trwy ymweld â’r tudalennau www.wrap.org.uk canlynol (Saesneg yn unig):