WRAP Cymru’n canolbwyntio ar arloesedd a chydweithredu yng Nghymru yn ystod Cynhadledd 2016

Julie Hill, WRAP Chair


Yr wythnos ddiwethaf, cefais y fraint o agor Cynhadledd WRAP Cymru. Mae Cymru yn arwain y maes rhyngwladol o ran cynaliadwyedd trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – y mesur hynod ac unigryw o ysgogi cyrff cyhoeddus i ystyried effeithiau eu penderfyniadau ar genhedloedd y dyfodol. Mae’r Ddeddf yn darparu cyd-destun ehangach ar gyfer agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar wella ffyniant a lleihau gwastraff. Mae hynny’n cynnwys cefnogi WRAP Cymru i ddarparu rhaglenni i awdurdodau lleol, y cyhoedd a’r trydydd sector, busnesau a defnyddwyr. Mae pob rhan weithredol yn cynnwys partneriaid amrywiol sydd wedi’u byddino ac sydd wedi arddangos nifer o fuddion. Felly, roedd cynulleidfa wybodus a derbyngar yn bresennol, yn barod i wrando ar ein themâu, sef arloesedd a chydweithio.

Yn ystod ein trafodaethau, cefais fy atgoffa nad yw arloesedd yn golygu’r un peth â dyfeisgarwch. Mae arloesedd yn cyfeirio at wneud pethau sydd eisoes yn bodoli mewn ffordd newydd, defnyddio arbenigedd sydd eisoes yn bodoli mewn meysydd newydd, a dod o hyd i bobl newydd i gydweithio â nhw. Cefais gyfle i gwrdd ag eiriolwyr angerddol, a chlywed enghreifftiau ardderchog o arloesedd ar waith; gan gynnwys prosiect ailwampio Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi creu gofod mewnol unigryw a newydd allan o hen ddodrefn. Cafodd y prosiect ei yrru gan werth am arian a’r penderfyniad i osgoi gwastraff, a arweiniodd at bartneriaeth gyda menter gymdeithasol a datrysiad sydd wedi taro deuddeg gydag aelodau staff. Yna, roedd wythnos ‘Caru Eich Dillad’ yng Nghaerdydd, a welodd y trefnwyr yn ymgysylltu â phobl i drafod gwastraff ffasiwn ac uwchgylchu jîns yn siorts. Mae prosiect Bwyd a Hwyl yn sicrhau bod plant yn cael y ddau gynhwysyn hanfodol hyn mewn clybiau chwarae yn ystod gwyliau’r haf, gan ddarparu sylfaen bwyta’n iach ac mewn ffordd gynaliadwy, yn ogystal â chwarae corfforol a chreadigol. Ar ben hynny, clywais am fyfyrwyr o Abertawe sy’n defnyddio bwyd dros ben o gampws y brifysgol a siopau lleol i gynnal ciniawau ‘dod i adnabod ein gilydd’ yn y gymuned; gan felly darparu maeth, cyfle i gymdeithasu a chwalu rhagfarnau cyffredin am fyfyrwyr. Ond dyma dim ond blas i chi o’r hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru.


I mi, un o agweddau mwyaf blaenllaw’r gynhadledd oedd clywed cyfeiriadau cyson at ddefnyddio caffaeliad cyhoeddus fel cyfarpar. Yn ogystal ag enghraifft uwchgylchu dodrefn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae E-cycle yn gwmni sy’n darparu gwaith i bobl anabl ym maes casglu, dileu ac ailwampio offer TG, sy’n cael ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a Llywodraeth Cymru ymysg eraill. Nid oes rhaid ymdrechu’n galed iawn i ddychmygu gofynion caffael cyhoeddus ar gyfer pob nwydd a gwasanaeth er mwyn arddangos eu nodweddion economaidd cylchol - er enghraifft o ran cynnwys wedi’i ailgylchu, y potensial ar gyfer adnewyddu ac ailddefnyddio, neu hyd warantau. Mae manteision economaidd y dull gwaith hwn yn amlwg - costau hyd-bywyd is, llai o amharu ar wasanaethau, creu swyddi lleol, a deunyddiau crai hollbwysig yn aros yng Nghymru yn hytrach na mynd dros Glawdd Offa. Credaf fod Cymru mewn sefyllfa da iawn i weithredu hyn ac mae’n rhywbeth y byddaf yn cadw llygad barcud arno yn y dyfodol.


Gobeithio y gadawodd y cyfranwyr ein cynhadledd wedi’u hysbrydoli i ddod o hyd i bartneriaid newydd a datblygu offer i hyrwyddo’r economi gylchol ar dir gwlad. Arddangoswyd cefnogaeth wleidyddol a pholisi tuag at y nod hwn, ac rwy’n disgwyl i Gymru barhau i arwain y ffordd yn y maes.