|
De Cymru: 17 Hydref 2011, 10.30yb - 1yp Gogledd Cymru: 21 Hydref 2011, 12.30yp - 3yp
|
|
|
|
Mae Project ARID, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn galw am geisiadau gan fusnesau bach a chanolig yng Ngorllewin Cymru neu’r Cymoedd (Rhanbarth Cydgyfeirio Cymru), sydd yn dymuno cael cymorth ariannol i ddatblygu cyfleusterau ailbrosesu gwastraff at ddefnydd Masnachol a Diwydiannol.
|
|
|
|
Mae hyd at £500,000 o gefnogaeth, hyd at 40% o gost project ar gael i brosiectau fydd yn: - Cynyddu’r gwastraff Masnachol a Diwydiannol a ddargyfeirir o safleoedd tirlenwi drwy ddatblygu capasiti ailgylchu a neu gompostio (Treulio Anaerobig);
- Gwella effeithlonrwydd cyfleusterau sydd eisoes yn bodoli er mwyn gwella safon cynnyrch neu allbwn wedi ei ailgylchu.
|
|
|
|
Anogir busnesau sydd ag awydd ymgeisio i fynychu un o’n Gweithdai Cyngor a Chyfarwyddyd, i ddysgu mwy am nodau ac amcanion y rhaglen a derbyn gwybodaeth am y broses ymgeisio am gyllid. I gael rhagor o wybodaeth am gyllid ARID i’r Sector Ailbrosesu ac i gofrestru ar gyfer gweithdai, cysylltwch a WRAP Cymru ar 02920 448090, e-bostiwch wendy.cleveland@wrap.org.uk neu ewch i www.wrapcymru.org.uk
|
|
|