Mae WRAP Cymru yn helpu unigolion, busnesau ac awdurdodau lleol i leihau gwastraff, ailgylchu mwy, gwneud defnydd gwell o adnoddau a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Sefydlwyd WRAP fel cwmni di-elw yn 2000, ac fe’i cefnogir gan gyllid gan y llywodraeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gwybodaeth am WRAP Cymru
Dysgwch fwy am ein harianwyr, ein blaenoriaethau a’n cyflawniadau hyd yma.
Rydym yn gweithio gyda ffermwyr, tyfwyr, ymgynghorwyr cnwd, cyflenwyr cynnyrch a gweithgynhyrchwyr cyfryngau tyfu i ddatblygu marchnadoedd ar gyfer cynhyrchion compost a sefydlu’r Protocol Ansawdd ar gyfer Compost.