Mae WRAP Cymru wedi cefnogi nifer o fusnesau i ddod o hyd i atebion ar gyfer gwastraff a sgil-gynhyrchion bwyd a diod anochel sydd dal ar gael unwaith y mae camau atal, lleihau ac ailddefnyddio wedi’u defnyddio i’w heithaf.
Sefydlu gwerth yw’r broses o ychwanegu gwerth i’r gwastraff a’r sgil-gynhyrchion hyn, gan eu troi’n gynhyrchion defnyddiol, yn cynnwys cemegion a thanwydd. Mae’r dull hwn yn denu diddordeb o’r newydd yn y sector bwyd oherwydd bod adnoddau naturiol a sylfaenol yn cael eu disbyddu’n gyflym, a’r angen am brotocolau rheoli gwastraff mwy cynaliadwy a chost effeithiol.
Sefydlwyd rhaglen sefydlu gwerth WRAP Cymru i ddatblygu atebion arloesol i wastraff bwyd a diod a sgil-gynhyrchion sy’n herio’r meddylfryd presennol ac sy’n galluogi gwneuthurwyr yng Nghymru i arbed arian, creu ffrydiau incwm newydd a chynyddu eu refeniw.
Astudiaethau achos ac adnoddau ychwanegol
Mae’r astudiaethau achos canlynol yn dangos sefydlu gwerth ar waith, yn cynnwys gwaith WRAP Cymru gyda busnesau yng Nghymru, fel Distyllfa Penderyn:
- QMilk – troi gwastraff llefrith yn ffibrau
- Waitrose – troi gwastraff bwyd yn ddeunydd pecynnu
- Fferm Brooksgrove – yn ychwanegu gwerth at ffrwythau meddal dros ben
- Flawsome! – rhoi cyfle arall i ffrwythau di-siâp a ffrwythau dros ben
- Penderyn – troi sgil-gynhyrchion distyllfa wisgi yn gyfleoedd am werth ychwanegol
- Trawsnewid sgil-gynhyrchion cynnyrch llaeth yn fwyd gwerthfawr ar gyfer anifeiliaid ifanc
Sylwer, er nad yw WRAP Cymru yn cynnig cefnogaeth sefydlu gwerth ar hyn o bryd, mae cyfres o adnoddau am ddim ar gael ar ein tudalen Adnoddau Sefydlu Gwerth bwrpasol.
Sylwch y bydd rhai dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at gynnwys Saesneg yn unig ar ein gwefan WRAP UK.