Mae WRAP, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi dylunio’r Adnodd Mapio Deunyddiau Cylchol hawdd ei ddefnyddio hwn – adnodd defnyddiol i randdeiliaid ar draws gadwyni gwerth plastigion, papur, a phren yng Nghymru.

Mae’n cynnig darlun rhyngweithiol, gweledol o raddfa sectorau plastigion, papur, a phren Cymru, gan nodi lleoliadau busnesau a helpu canfod ble mae clystyrau ohonynt.

Gall defnyddwyr:

  • Hidlo yn ôl enw cwmni 
  • Archwilio’r nifer o fusnesau ym mhob awdurdod lleol
  • Archwilio’r tunelledd a’r math o ddeunydd a gaiff ei drin ar safleoedd penodol
  • Archwilio cyfleoedd i gyrchu porthiannau eilgylch a dod o hyd i allfeydd ar gyfer gwastraff deunyddiau yng Nghymru.

Bwriad yr adnodd hwn yw helpu cefnogi mwy o gydweithio rhwng y nifer fawr o fusnesau sy’n ffurfio sectorau plastigion, papur a phren yng Nghymru. Mae’n rhoi’r cyfle i fusnesau ehangu mwy ar eu dealltwriaeth o’r sector deunyddiau ehangach yng Nghymru.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adnodd, neu os hoffech ychwanegu (neu ddiweddaru) manylion eich busnes ar yr Adnodd Mapio, cysylltwch â ni ar Resources.Wales@wrap.org.uk.

 

Cliciwch yma i ddefnyddio Adnodd Mapio Economi Gylchol Plastigion Cymru

Cliciwch yma i ddefnyddio Adnodd Mapio Economi Gylchol Papur Cymru

Cliciwch yma i ddefnyddio Adnodd Mapio Economi Gylchol Pren Cymru

 

Os hoffech ehangu eich chwiliad y tu hwnt i Gymru, mae’r UK Circular Plastics Network wedi llunio map tirlun cyflenwol sy’n dangos y Deyrnas Unedig gyfan. Mae hefyd yn cynnwys Sefydliadau Academaidd a Sefydliadau Ymchwil a Thechnoleg. Dyma’r ddolen i’r map tirlun hwnnw.

Datblygwyd yr Adnodd Mapio Deunyddiau Cylchol hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan WRAP Cymru gyda chefnogaeth gan Resilience Sustainable Solutions a Green Edge Applications Limited. 

Er ein bod wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y map hwn yn gywir, nid yw WRAP yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled, difrod, cost na thraul o ganlyniad i neu sy’n deillio o ddibynnu ar y map hwn. Mae darllenwyr yn gyfrifol am asesu cywirdeb a’r casgliadau a ddaw o gynnwys y map hwn. Ni chewch ddefnyddio’r map hwn na deunydd ohono i gymeradwyo nac i awgrymu bod WRAP wedi cymeradwyo cynnyrch neu wasanaeth masnachol. Am ragor o fanylion, gweler telerau ac amodau WRAP ar ein gwefan.

Ffynonellau Data

Fe wnaethom gyrchu data o Dŷ’r Cwmnïau, gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn uniongyrchol gan fusnesau unigol. Casglwyd data gwreiddiol ar blastigion rhwng 2018 a 2020, a chasglwyd data gwreiddiol ar bapur rhwng 2020 a 2021. Diweddarwyd y data ar gyfer papur a phlastigion ill dau ynghyd â’r casgliad gwreiddiol o ddata ar bren rhwng 2022 a 2023.

Hyd eithaf gwybodaeth WRAP, mae’r holl ddata a gynhwysir yn gyfredol hyd Chwefror 2023. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr adnodd, neu os hoffech ychwanegu (neu ddiweddaru) manylion eich busnes ar y Map Deunyddiau, cysylltwch â ni ar Resources.Wales@wrap.org.uk.

Datblygwyd yr Adnodd Mapio Deunyddiau Cylchol hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan WRAP Cymru gyda chefnogaeth gan Resilience Sustainable Solutions a Green Edge Applications Limited. 
Bwriad y Map hwn yw helpu cefnogi mwy o gydweithio rhwng y nifer fawr o fusnesau sy’n ffurfio sectorau plastigion, papur a phren yng Nghymru. Mae’n rhoi’r cyfle i fusnesau ehangu mwy ar eu dealltwriaeth o’r diwydiannau plastigion, papur a phren gyda’r nod ehangach o greu Cymru fwy cylchol.
Welsh Government Initiative Logo

Tagiau