
Canfu ein hymchwil (1) bod tua deng miliwn tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yn y DU wedi iddo basio giatiau’r fferm, gyda gwerth o tua £17 biliwn y flwyddyn. Drwy fod yn fwy effeithlon gydag adnoddau, gallai busnesau bwyd a diod – o’r cynhyrchwyr at adwerthwyr a sefydliadau lletygarwch – gyflawni arbedion cost sylweddol.
Sylwer, er nad yw WRAP Cymru yn cynnig cefnogaeth atal gwastraff bwyd ar hyn o bryd, mae cyfres o adnoddau am ddim ar gael yn y tabl isod. Pa bynnag sector rydych chi’n rhan ohono, a lle bynnag rydych chi arni ar eich siwrne atal gwastraff, mae gan WRAP Cymru’r adnoddau i’ch helpu.
Sylwch y bydd rhai dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at gynnwys Saesneg yn unig.
Food Waste Reduction Roadmap (cynnwys Saesneg yn unig ar wefan WRAP UK) | |
Food Waste Reduction Roadmap | Ground-breaking, industry wide roadmap and toolkit that will:
|
Busnesau Canolig (Mid-sized Businesses/MSBs) a Mentrau Bach a Chanolig (Small and Medium-sized Enterprises /SMEs) | |
Cyfeirlyfr Atal Gwastraff Bwyd | Mae’r canllaw hwn yn darparu’r holl wybodaeth a mewnwelediadau sydd eu hangen arnoch i’ch helpu i weithredu i leihau eich effaith amgylcheddol a lleihau costau, i’ch busnes chi ac i’ch defnyddwyr. |
Crynodebau Atal Gwastraff Bwyd | Cyfeirir at y rhain hefyd o fewn y Cyfeirlyfr uchod. Mae’r ddolen hon yn eich cyfeirio yn uniongyrchol at grynodebau sy’n berthnasol i sectorau neilltuol, sydd mewn fformat hygyrch a rhwydd i’w ddefnyddio. Maent yn cynnwys yr holl dystiolaeth, ymchwil, adnoddau a chanllawiau gan WRAP sydd eu hangen arnoch i weithredu ar wastraff bwyd yn eich sector penodol chi. |
Y Sector Cig Coch | Darllenwch ein astudiaeth achos a’r adroddiad ar gyfleoedd i leihau gwastraff a chynyddu elw. |
Bwyd yw eich Busnes – peidiwch â’i daflu i ffwrdd (Your Business is Food – don’t throw it away / YBIFManu) | Newydd gychwyn ar eich siwrne atal gwastraff bwyd? Mae’r rhaglen hon yn cefnogi busnesau bwyd gyda chamau syml ac adnoddau defnyddiol i leihau faint o fwyd a deflir, ac i ysbrydoli staff. Gwyliwch y fideo byr hwn i ddarganfod sut mae ‘Bwyd yw eich Busnes’ yn gallu helpu busnesau i leihau gwastraff ac arbed arian. |
Your Workplace Without Waste (YWWW) | Efallai mai dyma’r cam nesaf delfrydol – casgliad diddorol a bachog o adnoddau i’ch helpu chi ysbrydoli pawb yn eich busnes i leihau gwastraff bwyd a phecynnu yn eich gweithrediadau. |
Lletygarwch a Gwasanaeth Bwyd | |
Cefnogaeth WRAP ar gyfer Busnesau Bach | Mae’r dudalen we hon yn rhoi dolenni cyflym i’r adnoddau allweddol ar gyfer y rhai sy’n cymryd eu camau cyntaf tuag at leihau gwastraff bwyd. |
Cefnogaeth Busnes fesul Sector | Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i’ch anghenion, mae’r dudalen hon yn rhestru ein hadnoddau cefnogol fesul is-sector. |
Guardians of Grub | Mae 'Guardians of Grub' yw ymgyrch sy'n anelu i rymuso gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r sector lletygarwch a gwasanaeth bwyd i leihau faint o fwyd sy'n cael ei gwared yn eu sefydliadau. |
Y Sector Iechyd | |
Taking Action on Waste | Mae’r daflen wybodaeth hon yn amlinellu’r materion a’r camau allweddol sydd eu hangen i weithredu ar wastraff. |
Sgrinlediadau | Wedi’u cynhyrchu gan WRAP a’u datblygu o fewn yr HCA, mae’r sgrinlediadau hyn yn cynnig canllaw cam wrth gam i alluogi arlwywyr mewn ysbytai i leihau gwastraff bwyd a phecynnu cysylltiedig, ac ailgylchu mwy. |
Cefnogaeth Busnes i’r Sector | Healthcare: How to take action on waste; |
Pecyn Adnoddau Atal Gwastraff | Mae’r pecyn adnoddau hwn wedi’i ddylunio i helpu ysbytai i wneud arbedion costau drwy leihau gwastraff bwyd. Mae’n cynnwys canllawiau, cyngor, rhestrau gwirio, deunyddiau cyfathrebu a chynlluniau gweithredu enghreifftiol. |
Bwyd yw eich Busnes | Peidiwch â’i daflu i ffwrdd (Your Business is Food – don’t throw it away / YBIF): Mae’r rhaglen hon yn cefnogi busnesau lletygarwch a gwasanaeth bwyd gyda chamau syml ac adnoddau defnyddiol i leihau faint o fwyd a deflir ac i ysbrydoli staff. |
Ailddosbarthu Bwyd dros Ben | |
Astudiaethau Achos | Mae nifer o fusnesau wedi cymryd camau i ddatblygu partneriaethau arloesol i hwyluso cynnydd yn faint o fwyd dros ben y maent yn ei ailddosbarthu. Mae’r astudiaethau achos yma yn amlinellu rhai enghreifftiau. |
Canllawiau ac Adnoddau ‘How To’ | Mae WRAP, mewn partneriaeth â mudiadau ac elusennau ailddosbarthu, wedi datblygu cyfres o ganllawiau a thempledi i gynnig cyngor ymarferol am sut i fynd ati i sefydlu mentrau ailddosbarthu gyda phartneriaid:
|
Grŵp Gwaith Ailddosbarthu | Nod y Grŵp Gwaith hwn yw mynd i’r afael â’r swm cynyddol o fwyd dros ben a gaiff ei ailddosbarthu drwy rannu arfer gorau a darparu atebion. |
Gwefannau Partneriaid | Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni i wefannau partneriaid a all gynnig atebion cost-effeithiol ar gyfer bwyd dros ben yng ngwahanol rannau’r gadwyn gyflenwi. |
Gwastraff Bwyd o’r Cartref | |
Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff | Mae ymgyrch Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff WRAP yn cynnig cyngor a chanllawiau i ddefnyddwyr wrth siopa am fwyd, mesur plateidiau a gwneud i fwyd barhau’n hirach drwy ei storio’n gywir, yn ogystal â chynnig syniadau am ryseitiau sy’n defnyddio bwyd dros ben. |
Food Waste Reduction Roadmap (cynnwys Saesneg yn unig ar wefan WRAP UK) | |
(1) Estimates of Food Surplus and Waste Arisings in the UK (cynnwys Saesneg yn unig ar wefan WRAP UK)