WRAP Cymru annual conference 2010 Welsh LP

Gall busnesau Cymru arbed hyd at £318 miliwn y flwyddyn drwy ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon. Yn ogystal, gall effeithlonrwydd adnoddau fod yn 'arf gudd' yn erbyn newid yn yr hinsawdd gan ei fod yn galluogi busnesau i ymateb ar unwaith i dargedau heriol a difrifol.

  • Sut y gall busnesau wireddu'r manteision hyn?
  • Sut y gall effeithlonrwydd adnoddau helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau newid yn yr hinsawdd?
  • Sut y gall WRAP Cymru a'r Llywodraeth helpu?

Fe gyfarfu dros 100 o arweinwyr busnes, arbenigwyr amgylcheddol a'r Llywodraeth yn Stadiwm Swalec ar 20 Ionawr i drafod y pynciau llosg hyn.

Yn y gynhadledd, traddodwyd y brif araith gan Jane Davidson AC a chafwyd safbwyntiau busnes gan Anglesey Ecoparc Môn Ltd. Dilynwyd hyn gan Drafodaeth Banel fel y ceir ar Question Time dan gadeiryddiaeth Jonathan Hill o'r rhaglen Wales Tonight gyda:

  • Jane Davidson AC - y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
  • Matthew Davis - Rheolwr Gyfarwyddwr Anglesey Ecoparc Môn Ltd
  • Dr Liz Goodwin - Prif Swyddog Gweithredol WRAP
  • John Scott - Rheolwr Gyfarwyddwr Insource Energy Ltd
  • Stuart Hanford - Rheolwr Gyfarwyddwr Atlantic Waste Ltd

Safbwyntiau'r panel.

 

*Quantification of the Business Benefits of Resource Efficiency, Defra